Skip to main content

Diweddariad

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi buddsoddi. Rydym yn gobeithio gallu darparu newyddion cyffrous yn fuan iawn!

I’r rhai sy’n dymuno cyfrannu at y fenter heb brynu cyfranddaliad rydym nawr ar agor am roddion.

Cliciwch ar y botwm isod i gyfrannu.

Menter yr Eagles

EIN CYNNIG I BRYNU CYFRANDDALIADAU

EIN GWELEDIGAETH

Sicrhau’r Eagles fel canolbwynt cymdeithasol ac economaidd i Lanuwchllyn a’r ardal – canolbwynt sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at ffyniant y gymuned heddiw, a chreu gobaith a chyfleon ar gyfer ffyniant yn y dyfodol.

EIN HAMCANION

  • Perchnogi a datblygu’r Eagles fel tafarn, bwyty a siop gymunedol er budd yr ardal gyfan.
  • Sicrhau parhad cynaliadwy, datblygiad a thwf y busnes yn unol â dyheadau’r gymuned.
  • Sicrhau bod y Gymraeg yn greiddiol i bob gwasanaeth a darpariaeth.
  • Sicrhau bod unrhyw elw’n cael ei ailfuddsoddi yn y gymuned a bod y Fenter felly’n gyfrwng rhagweithiol ac uchelgeisiol i greu ffyniant yn y dyfodol.
  • Sicrhau bod y Fenter yn gweithredu ar ran ac er mwyn y gymuned y deilliodd ohoni.
  • Blaenoriaethu’r defnydd o adnoddau, gwasanaethau a chynnyrch lleol.

PAM BUDDSODDI?

  • Byddwch yn aelod o’r Gymdeithas er Budd Cymunedol (CBS).
  • Bydd gennych bleidlais pan fyddwn yn penderfynu sut i wario a datblygu adnoddau a gwasanaethau, a bwriedir talu llog rhesymol ar eich buddsoddiad maes o law.
  • Byddwch yn rhan o fenter sy’n gobeithio datblygu a gwasanaethu ffyniant yr ardal i’r dyfodol.

Ymunwch â Ni!

Dyddiad cau i brynu cyfranddaliadau:

17 Medi 2023

Ymunwch â Ni!

Dyddiad cau i brynu cyfranddaliadau:

17 Medi 2023

SUT MAE BUDDSODDI?

Pris un cyfranddaliad yw £1, ac fe’u gwerthir mewn blociau o 500. Prynwch drwy’r dulliau isod. Gallwch brynu ar y cyd, ond un bleidlais fydd gan bob aelodaeth.
Mae croeso i gwmnïau, cymdeithasau a busnesau fuddsoddi.

Ffurflen Fuddsoddi