CROESO I’R EAGLES!
[/split_line_heading]Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi buddsoddi. Rydym yn gobeithio gallu darparu newyddion cyffrous yn fuan iawn!
I’r rhai sy’n dymuno cyfrannu at y fenter heb brynu cyfranddaliad rydym nawr ar agor am roddion.
Cliciwch ar y botwm isod i gyfrannu.
Mae tafarn yr Eagles, Llanuwchllyn yn un o dafarndai mwyaf adnabyddus Cymru.
Ond mae’n llawer iawn mwy na dim ond tŷ tafarn.
Dyma guriad calon y gymuned. Dyna pam, yn dilyn cyhoeddiad y perchnogion presennol yn gynharach eleni eu bod yn ymddeol, y daeth y gymuned ynghyd i sicrhau bod y drysau’n parhau’n llydan agored.
Buddsoddwch yn eich cymuned.
Buddsoddwch yn yr Eagles.
Trwy fuddsoddi ym Menter yr Eagles rydych yn gwneud mwy na phrynu cyfranddaliadau yn y bar, y bwyty a’r siop. Rydych yn buddsoddi yn nyfodol y gymuned fywiog, groesawgar hon er mwyn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn cael yr un profiadau a’r un cyfleon â’r rhai o’u blaenau.